Rhan o hen gapel wedi dymchwel yn Aberllechau
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o hen gapel mewn pentref yn Rhondda Cynon Taf wedi dymchwel gan rwystro ffordd ac achosi difrod i gerbyd.
Fe ddisgynnodd rhan sylweddol o wal flaen y capel ar Stryd y Capel yn Aberllechau tua 18:30 nos Lun.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi ymateb i adroddiadau o adeilad anniogel, a bod y ffordd gyfagos wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod o ganlyniad.
Mae'r heddlu wedi gofyn i yrwyr osgoi'r ardal am y tro os yn bosib.