Lleucu George: 'Arhoswch gyda ni'

Mae maswr Cymru Lleucu George wedi erfyn ar y cefnogwyr i fod yn amyneddgar gyda'r tîm wrth iddyn nhw geisio gorffen y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn.

Mae hi wedi bod yn bencampwriaeth siomedig i Gymru, yn colli pob un o'u pedair gêm hyd yn hyn.

Er y canlyniadau siomedig, mae disgwyl torf o dros 10,000 yn Stadiwm Principality ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidalwyr, fydd yn record ar gyfer gêm gartref i dîm y merched.