'Siom' wedi i Heineken dorri miloedd o goed afalau

Mae cwmni seidr mwyaf y DU wedi torri miloedd o goed afalau yn Sir Fynwy - ardal tua'r un maint â 140 o gaeau pêl-droed -gan ddweud bod llai o alw am seidr yn eu gwneud yn anghynaliadwy.

Cafodd perllan Penrhos, ar lwybr Clawdd Offa, ei phlannu yn wreiddiol 25 mlynedd yn ôl.

Ond dywed cwmni Heineken bod gostyngiad yn y farchnad, a'r ffaith bod yna ormod o afalau seidr, yn golygu bod rhaid cwtogi'r berllan ac ystyried defnydd arall i'r tir.

Gyda'r safle'n gynefin adar, mae amgylcheddwyr lleol yn poeni am yr effaith ar boblogaethau adar mudol a bioamrywiaeth yn yr ardal.

Dywed y cwmni eu bod wedi cydymffurfio â'r Ddeddf Bywyd Gwyllt, ond mae trigolion lleol yn "drist" ac yn "siomedig" bod y coed wedi mynd.