Chwe Gwlad: 'Mae'r gwaith caled 'di bod werth o'

Mae prop Cymru Gwenllian Pyrs yn dweud fod y garfan yn "hapus iawn" i orffen y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal.

A hithau wedi sgorio cais yn y gêm yn Stadiwm Principality mae'n dweud bod y "gwaith caled 'di bod werth o".

Er i Gymru ennill o 22-20, mae Cymru yn gorffen y bencampwriaeth ar waelod y tabl.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd y prif hyfforddwr, Ioan Cunningham: "Mae hyn yn enfawr. Mae pawb wedi rhoi cymaint o waith, egni ac ymdrech i'r ymgyrch yma a dydi pethau ddim wedi mynd y ffordd roedden ni wedi ei obeithio.

Mi fydd Cymru'n chwarae gêm ail-gyfle yn erbyn Sbaen yn ddiweddarach eleni i weld a fyddan nhw'n chwarae yn yr ail neu'r drydedd haen yng nghystadleuaeth WXV yn yr Hydref.