Atyniad newydd Stadiwm y Principality

Bydd Stadiwm y Principality yn agor atyniad cyffrous newydd ar 29 Ebrill wedi gwaith 15 mlynedd o gynllunio.

Mae Scale yn caniatau i ymwelwyr â'r stadiwm gerdded ar hyd to'r stadiwm, gwneud 'zip line' o un pen y stadiwm i'r llall ac abseilio'n ôl i'r ddaear!

Mae Troy Williams, 23 o Dreharris, sy'n ymladdwr tân ar alw wedi dechrau gweithio yno'n arwain y cyhoedd drwy'r antur. Eglurodd ef "Roedd [y cyfle hwn] yn agor ac o'n i'n chwilio am job arall i 'neud on the side. Dw i'n hoffi bod tu fas, so hyn yw beth fi'n gwneud nawr."

Mae'r antur sy'n cael ei rhannu'n dri rhan sef, Y Ddringfa (Climb), Y Wifren Wib (Zip Wire) a'r Gwyll (The Drop) ac yn cyrraedd uchder o 60m.

"Pan ti lan 'na," eglura Troy, "ti'n gallu gweld y pitch lle mae Cymru'n chwarae, Castell Caerdydd, Bannau Brycheiniog, yr afon Taf a Bae Caerdydd a llawer mwy.

Fy hoff beth i yw bod fyny 'na. Ti'n gallu gweld popeth. Ti'n gallu siarad gyda pobl eraill o places eraill."