Trywanu Rhydaman: 'Angen gwneud rhywbeth o ddifri'

Mae arweinydd undeb athrawon yn dweud bod angen ystyried gwneud mwy i ddiogelu disgyblion a staff yn ysgolion Cymru, yn dilyn achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman.

Ar raglen Bore Sul Radio Cymru, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Ioan Rhys Jones, bod aelodau o'r undeb wedi ymateb i'r digwyddiad ddydd Mercher "efo braw ac ansicrwydd".

Fe gafodd dwy athrawes - Fiona Elias a Liz Hopkin - a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad. Doedd eu hanafiadau ddim yn ddifrifol , ac fe gafodd y tri eu rhyddhau o'r ysbyty erbyn y diwrnod canlynol.

Ddydd Gwener, ymddangosodd merch 13 oed yn Llys Ynadon Llanelli i wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio a cafodd ei chadw mewn uned ddiogel i bobl ifanc.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob lleoliad addysg yng Nghymru i sicrhau amgylchedd dysgu diogel i ddysgwyr a staff.

"Bydd gan bob ysgol, felly, weithdrefnau brys ar waith ar gyfer delio â sefyllfaoedd anarferol sy'n codi."

Mwy am y stori yma.