Y Fflam yn ffarwelio â Chymru

  • Cyhoeddwyd

Er y bydd y Fflam Olympaidd yn gadael Cymru nos Fawrth, fe fydd yn dychwelyd am gyfnod ddydd Mercher cyn ffarwelio â Chymru am y tro olaf.

Wedi gadael Caer ben bore, bydd y Fflam yn dychwelyd i Gymru drwy'r Orsedd cyn ymweld ag ardal Wrecsam, Rhosllanerchrhugog a'r Waun.

Wrth deithio tua'r de bydd yn ymweld â Safle Treftadaeth y Byd, sef traphont ddŵr Pontcysyllte.

Bydd dilyn llwybr Clawdd Offa am gyfnod, gan groesi i Groesoswallt ac yna yn ôl i Bowys.

Wedi i'r fflam gael ei gludo drwy Llanymynech a'r Trallwng, bydd yn gadael Cymru am y tro olaf ar ei ffordd i Stoke-on-Trent lle bydd yn gorffen y diwrnod.

Fe fydd taith hanesyddol y Fflam Olympaidd i Gymru yn dod i ben ddydd Mercher felly, ond fe fydd y Gemau yn dechrau yng Nghymru wrth i'r gystadleuaeth pêl-droed merched gael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ddiwedd Gorffennaf.

Amcangyfrif o amseroedd Taith y Fflam :-

Map o'r daith

06:56 Caer

07:25 Wrecsam

08:29 Rhostyllen

08:44 Acrefair

08:59 Trefor

09:47 Croesoswallt

10:23 Pant

10:36 Llanymynech

10:55 Y Trallwng

11:40 Amwythig

13:02 Cressage

13:14 Much Wenlock

14:51 Benthall

14:57 Broseley

15:14 Ironbridge

15:46 Telford

16:06 Newport

16:52 Gnosall

17:12 Haughton

17:25 Stafford

18:34 Shelton

18:46 Stoke-on-Trent