Trefn gemau Uwchgynghrair Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chwarewyr TNS yn dathlu ennill Uwchgynghrair CymruFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Y Seintiau Newydd yn dathlu wrth fod yn bencampwyr

Mae Uwchgynghrair Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr gemau hanner cynta'r tymor nesa'.

Yn ôl y drefn dros y ddau dymor diwethaf, bydd y 12 tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith cyn i'r gynghrair gael ei rhannu'n ddwy ar ddiwedd mis Ionawr 2013.

Bydd y pencampwyr - Y Seintiau Newydd - yn dechrau ar eu tomen eu hunain yng Nghroesoswallt gydag ymweliad Airbus UK Brychdyn tra bod Bangor yn Stadiwm Nantporth wrth groesawu'r newydd-ddyfodiaid, GAP Cei Cona.

Gyda Chastell-nedd wedi gadael yr Uwchgynghrair oherwydd trafferthion ariannol a Llanelli wedi profi problemau ariannol wrth i nifer o chwaraewyr adael, mae ambell un yn darogan mai Port Talbot a'r Bala fydd yn herio'r ddau geffyl blaen.

Fe fydd y ddau fawr yn cwrdd ar Fedi 22 wrth i Fangor deithio i gartre'r Seintiau gyda'r pencampwyr yn mynd i Nantporth ar Ragfyr 1.

Mae trefn y gemau ar ffurf grid isod.