RHEOLAU PLEIDLEISIO CYFFREDINOL

  • Cyhoeddwyd

RHEOLAU PLEIDLEISIO CYFFREDINOL FEL A GYHOEDDWYD YM MIS TACHWEDD (NODWCH FOD Y BLEIDLAIS WEDI CAU)

1. Bydd modd pleidleisio ar y ffôn neu trwy neges destun o 8:00am fore Llun, Rhagfyr 2, 2012 tan 6:00pm ddydd Sadwrn, Rhagfyr 8, 2012. Bydd y rhestr enwebiadau i'w gweld ar allbwn BBC Cymru o ddydd Mercher, Tachwedd 28. Fe fydd y rhifau perthnasol i fwrw pleidlais dros eich ymgeisydd chi yn cael eu cyhoeddi fore Llun, Rhagfyr 3, 2012. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales yng nghyflwyniad Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar nos Lun, Rhagfyr 10 am oddeutu 8:30pm. Bydd y canlyniad yn ymddangos ar-lein tua'r un adeg.

2. Dim ond dros y ffôn neu drwy neges destun y mae modd pleidleisio. Sylwer na fyddwch yn cael pleidleisio drwy e-bost, y botwm coch nac ar y wefan yma. Bydd hawl i bleidleisio bum gwaith trwy bob dull o bleidleisio.

3. Bydd y llinellau ffôn a neges destun yn agor fel y nodwyd uchod. Bydd pleidleisiau sy'n dod i law y tu allan i'r amserau uchod, neu sydd uwchlaw y mwyafswm o bleidleisiau a ganiateir ddim yn cael eu cyfri, ond mae'n bosib y byddwch yn talu amdanynt. Gall yr amseroedd pleidleisio newid.

4. Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ohirio neu ganslo pleidleisio ar unrhyw adeg.

5. Mae'r bleidlais yn agored i holl drigolion y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Noder nad yw pobl sy'n cael eu cyflogi gan y BBC, eu perthnasau agos nac unrhyw un sy'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd gyda chynhyrchu'r rhaglen na darparu llinellau ffôn sefydlog a gwasanaethau ffonau symudol ar gyfer y rhaglen yn gymwys i bleidleisio.

6. Bydd pob galwad ffôn yn costio 10 ceiniog yr alwad o linell BT arferol, a gall rhwydweithiau eraill amrywio. Bydd galwadau o ffonau symudol yn sylweddol ddrytach.

Mae'r tabl yma yn ganllaw yn unig, ac yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan y cwmnïau ffonau symudol ar Dachwedd 28, 2012. Am y wybodaeth ddiweddaraf, rydym yn eich cynghori i wirio prisiau gyda'ch cwmni ffôn symudol.

7. Rhaid i bleidleiswyr gael caniatâd y person sy'n talu'r bil cyn pleidleisio. Dylai pleidleiswyr sy'n 12 oed neu'n iau gael caniatâd rhiant neu warchodwr cyn pleidleisio.

8. Os ydych yn gwylio'r rhaglen drwy'r iPlayer neu unrhyw wasanaeth arall sy'n dangos y rhaglen ar amser gwahanol i'r amser darlledu gwreiddiol, dylech wirio a yw'r bleidlais yn parhau yn agored cyn ceisio bwrw pleidlais, gan y gallai fod eisoes wedi cau.

9. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deialu y rhif yn ofalus neu deipio gair côd/allweddair y person yr ydych am bleidleisio iddynt.

10. Cewch bleidleisio hyd at bum gwaith ar eich ffôn neu ar eich ffôn symudol. Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddiarddel pleidleisiau os oes ganddi reswm da i amau bod pleidleisio twyllodrus wedi digwydd, neu os amheuir fod yna ymgais fwriadol i ddylanwadu'n dwyllodrus ar y canlyniad. Gall y BBC ond warantu mai pleidleisiau unigol drwy'r rhifau ffôn neu'r geiriau côd ar neges destun fydd yn cael eu cyfri.

11. Mae cynlluniau wrth gefn mewn rhai amgylchiadau. Gallai'r rhain gynnwys defnyddio panel o bobl o'r sector chwaraeon pe bai trafferthion gyda'r llinellau ffôn neu bleidleisio ar neges destun, neu os yw canlyniad y bleidlais yn gyfartal. Bydd y defnydd o gynlluniau wrth gefn fel hyn yn cael ei ddatgan yn glir.

12. Er mwyn gwirio unrhyw gais i gael ad-daliad (os fydd hynny'n cael ei gynnig) neu i ymchwilio i anghysonderau pleidleisio, fe allai'r BBC ofyn i'r cwmnïau ffôn i ddatgelu'r rhif ffôn yr ydych wedi ei ddefnyddio i bleidleisio. Noder y bydd hyn yn ofynnol hyd yn oed os ydych wedi dewis peidio datgelu eich rhif wrth bleidleisio. Os nad ydych yn cytuno gyda hyn, ni ddylech bleidleisio.

Os fydd angen ymchwiliad o'r fath, bydd y BBC ond yn defnyddio eich rhif ffôn at bwrpas prosesu ad-daliadau neu i ymchwilio i anghysonderau pleidleisio, ac ni fydd yn cyhoeddi nac yn rhoi'r rhif i unrhyw un arall heb ganiatâd, heblaw lle mae angen hynny i weithredu'r rheolau yma. Gallwch ddarllen mwy am bolisi preifatrwydd y BBC yma.

13. Ni all y BBC, ei hisgontractwyr, is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am: i) unrhyw fethiant technegol neu broblem arall gydag unrhyw rwydwaith neu linell ffôn, sustem, gweinydd, darparwr neu fel arall allai arwain at golli unrhyw bleidlais, neu i bleidlais beidio cael ei chofrestru neu gofnodi; ii) unrhyw berson sydd wedi eu henwebu yn tynnu nôl o'r digwyddiad neu yn gwrthod derbyn y wobr am unrhyw reswm.

14. Mae'r pleidleisio yn y rhaglen hon yn cyd-fynd â Chôd Ymddygiad Cystadlaethau a Phleidleisio'r BBC, ac fe ellir gweld manylion hwnnw ar wefan Safonau a Chanllawiau'r BBC.