Datgelu llwybr posib ffordd liniaru'r M4
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fideo sy'n datgelu llwybr posib ffordd liniaru yr M4 yn ardal Casnewydd.
Mae'r cynllun yn cynnwys 15 milltir o draffordd newydd, traphont 1.5 milltir sy'n croesi Afon Wysg yn ogystal â gweddnewid cyffyrdd 23 a 29.
Fe gafodd y cynllun gwreiddiol i liniaru traffig yn ardal twneli Brynglas yng Nghasnewydd, ei ddatgelu 24 mlynedd yn ôl.
Fodd bynnag, mae cryn oedi wedi bod oherwydd pryder am gostau ac effaith y gwaith ar fywyd gwyllt.