Pryder undeb amaeth am reolau newydd storio slyri
Fe allai miloedd o ffermydd yng Nghymru wynebu trafferthion o ganlyniad i reolau newydd ym myd amaeth - dyna'r rhybudd gan undeb yr NFU.
Mae'n bosib y bydd llawer mwy o ffermydd yn gorfod storio slyri am bum mis dros y gaeaf - yn hytrach na'i wasgaru ar y tir. Ond yn ôl yr undeb, fe fydd y gost o addasu'r fferm yn ormod i rai o'u haelodau. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ymgynghori'n llawn, cyn newid y drefn. Dyma adroddiad Ellis Roberts ar ran Newyddion 9.