Cynllun cerdd i daclo unigrwydd ardaloedd gwledig Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Preswylwyr Awel y Coleg yn mwynhau rhywfaint o ganu

Mae cynllun peilot wedi'i lansio yng Ngwynedd er mwyn defnyddio cerdd i daclo unigrwydd mewn ardaloedd gwledig.

Bwriad y cynllun - Atgofion ar Gân - sy'n cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd a Chanolfan Gerdd William Mathias o Gaernarfon, yw helpu pobl hŷn i beidio â theimlo mor unig.

Mae'r sesiynau cerdd wythnosol yn gyfle iddyn nhw ganu a chwarae cerddoriaeth gyda'i gilydd.

Fe ddechreuodd yr arbrawf yng nghartref gofal Awel y Coleg yn y Bala, ac fe fydd gweithgaredd tebyg yn digwydd yng Ngellilydan.

"Does gennych chi ddim syniad faint mae'n cyfoethogi ein bywydau," meddai Sylwen Davies, un o breswylwyr Awel y Coleg sydd yn cymryd rhan yn y sesiynau canu.

"Mae'n hollol, hollol wych."

Ychwanegodd un arall o'r preswylwyr, Lily Williamson, eu bod yn gwneud iddynt deimlo'n "fwy actif, yn fwy normal".

'Cenedlaethau at ei gilydd'

Bydd plant o Ysgol Bro Tryweryn yn ymuno â'r cynllun y flwyddyn nesaf, gan weithio gyda'r henoed er mwyn ceisio "cyfoethogi bywydau'r ddwy genhedlaeth".

"Bydd hi'n gyfle gwych i'r plant fynd allan i'r gymuned a chyfarfod pobl newydd," meddai pennaeth yr ysgol, Heledd Owen.

Dywedodd rheolwraig y cynllun, Meinir Llwyd Roberts o Ganolfan Gerdd William Mathias: "Roedden ni'n teimlo y byddai gweithio o fewn y ddwy gymuned yma yn rhoi cyfleoedd gwahanol i daclo a cheisio delio ag unigrwydd.

"Mae unigolion yn gallu bod yn unig mewn tref brysur, yn enwedig os ydyn nhw wedi symud yno yn hwyrach yn eu bywydau, yn ogystal ag unigolion sydd yn byw mewn ardaloedd tawel ac ynysig.

"Rydyn ni'n credu bod y prosiect yn rhoi'r cyfle i ni arbrofi gyda chynllun fydd yn dod â'r genhedlaeth hŷn ac iau at ei gilydd drwy'r celfyddydau, wrth roi llais i'r genhedlaeth hŷn o fewn eu cymunedau."