Busnesu yn y bragdy

  • Cyhoeddwyd

Bragdy cwrw Brains yng nghanol Caerdydd yw'r mwyaf o'i fath yng Nghymru.

Yn gorwedd ar lan yr Afon Taf mae'r bragdy'n cynhyrchu cwrw sydd yn cael ei anfon i bob cwr o'r byd.

Ond mae cynlluniau i ddymchwel yr adeiladau a symud i gyrion y ddinas yn y blynyddoedd nesaf.

Aeth Cymru Fyw i weld y safle hanesyddol i ddeall mwy am yr hyn sy'n digwydd yno:

Mae cwrw Brains yn parhau dan berchnogaeth disgynyddion y ddau a sefydlodd y cwmni; Samuel Arthur Brain a Joseph Benjamin Brain.

Mae Samuel Arthur Brain yn hen, hen daid i'r cadeirydd presennol, John Rhys, ac mae Joseph Benjamin Brain yn hen, hen daid i'r ysgrifenydd/cyfarwyddwr, Charles Brain.

Mae Brains yn cynhyrchu wyth 'clasur', gan gynnwys SA, SA Gold, Dark a cwrw chwerw.

Mae'r cwrw Reverend James ymysg y mwyaf poblogaidd gan Brains yng Nghymru a gweddill Prydain, ac mae eu cwrw crefft hefyd yn tyfu mewn poblogrwydd.

Mae 15 math gwahanol o gwrw Brains ar gael bob mis ond mae dros 100 math wedi eu bragu ganddyn nhw dros y blynyddoedd.

Mae'r broses fragu yn cymryd tua pythefnos, gyda'r holl broses o gynhyrchu cwrw yn cymryd tair wythnos o'r dechrau i'r diwedd.

Mae tua 30 o bobl yn gweithio ar y broses fragu ar y safle a 150 yn gweithio yn y brif swyddfa yn yr adeilad drws nesaf.

Fe wnaeth Brains ddechrau bragu ar y safle presennol yn 1999. Hancock oedd yn bragu yno cyn hynny ond fe brynodd Brains y safle gan gwmni Bass.

Mae'r adeilad yn dechrau dangos ei oed ac felly mae Brains yn bwriadu symud i safle newydd yn y blynyddoedd nesaf er mwyn ceisio gwella effeithlonrwydd.

Yn yr ystafell flasu mae samplau yn cael eu dewis er mwyn gweld os yw'r cwrw'n cyrraedd y safon.

Mae'r Prif Weithredwr, Scott Waddington, wedi cyhoeddi bod nifer o safleoedd ar gyrion Caerdydd yn cael eu hystyried fel cartref newydd i fragu cwrw Brains, ac mae disgwyl y bydd cyhoeddiad yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae disgwyl i'r symud o un safle i'r llall gymryd hyd at ddwy flynedd i'w gwblhau.

Mae Brains am ddechrau menter gyda cwmni Rightacres i ailddatblygu y safle presennol fel rhan o'r prosiectiau adfywio mwyaf erioed yng Nghymru.

Ar y safle 3 miliwn troedfedd sgwar bydd bwytai, tafarndai, siopau, swyddfeydd a fflatiau yn cael eu hadeiladu.

Un o bigau Stadiwm Principality i'w weld yn y cefndir, sy'n briodol gan mai Brains yw cwrw swyddogol Undeb Rygbi Cymru.

Y tŵr eiconig sydd i'w weld o lan yr afon Taf. Fydd y tŵr ddim yn cael ei ddymchwel pan fydd y safle yn cael ei ail ddatblygu yn y blynyddoedd nesaf.

Mae gan Brains 130 o dafarndai a 78 o siopau Coffee#1. Mae 1,894 o weithwyr ganddyn nhw yn eu tafarndai a gwestai a 566 arall yn y siopau coffi.