Pwyntiau gwefru i geir trydan: 'twll mawr' yng Nghymru

Mae'r Aelod Cynulliad Russell George yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gynnig nawdd ariannol fel bod modd cael pwyntiau gwefru "cyflym" ar gyfer ceir trydan trwy Gymru.

Dim ond ar yr A55 a'r M4 mae 'na bwyntiau ar gyfer defnydd cyhoeddus ar hyn o bryd.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn awyddus i gyflwyno mwy ond yn cydnabod eu bod nhw'n gostus.