Tad o Borthaethwy yn creu braich 3D i'w fab
Mae tad plentyn sydd wedi bod ag un fraich yn unig ers yr oedd yn 10 diwrnod oed wedi defnyddio argraffydd 3D i greu braich newydd iddo.
Cafodd Ben Ryan o Borthaethwy help gan Brifysgol Bangor i ddylunio'r fraich newydd i Sol, sy'n ddwy oed.
Mae nawr wedi sefydlu ei fusnes ei hun, gan obeithio y bydd miloedd o freichiau a dwylo 3D yn cael eu creu i blant ar draws y byd.
Prif dechnegydd Canolfan Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor, Wyn Griffith sy'n manylu ar y cynllun.