Newid y Gyfnewidfa // Changing the Coal Exchange

  • Cyhoeddwyd

Ar un adeg, y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd oedd un o'r adeiladau pwysicaf yng Nghymru.

Mae stori'r adeilad yn bennod bwysig yn hanes y Gymru fodern, ond mae'n cael ei drawsnewid ar hyn o bryd gyda chynlluniau i agor gwesty, bwytai, bar a chanolfan treftadaeth o dan yr enw 'The Exchange Hotel'.

Dyma olwg ar sut mae'r adeilad wedi newid dros y blynyddoedd, a beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

The Coal Exchange building in Cardiff Bay was once one of the most important buildings in Wales.

Its story is important in the industrial history of Wales, and the iconic building iscurrently being redeveloped with plans to open a hotel, restaurants, bars and a heritage centre under the new name The Exchange Hotel.

Here's a look at how the building has changed over the years, and the plans forits future.

Ffynhonnell y llun, Google

Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Caerdydd oedd prif borthladd glo y byd ac oherwydd bod cymaint o fusnes yn mynd drwy'r bae fe agorwyd y Gyfnewidfa Lo yn 1886.

At the end of the nineteenth century, Cardiff was the coal capital of the world andwith so much trade coming through Cardiff Bay the Coal Exchange was opened in 1886.

Yma, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, cafodd y cytundeb masnachol cyntaf gwerth £1m ei arwyddo. Roedd y cytundeb yn ymwneud â gwerthu 2,500 o dunelli o lo i gwmni yn Ffrainc.

It was in this building at the start of the twentieth century that the first £1m trade deal was signed, with 2,500 tonnes of coal being sold to a company in France.

Roedd 10,000 o bobl y diwrnod yn masnachu yn y gyfnewidfa, ac ar un adeg roedd prisiau glo'r byd yn cael eu dyfarnu yma.

There were 10,000 people trading in the building every day, and at one time the price of the world's coal was determined here.

Caeodd y Gyfnewidfa Lo yn 1958, gydag allforio glo yn dod i ben yn 1964. Roedd cynlluniau i gartrefu'r Cynulliad Cenedlaethol yma ond fe bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979. Roedd hefyd bwriad i osod pencadlys S4C yma pan sefydlwyd y sianel yn 1983.

The Coal Exchange was closed in 1958, with the exporting of coal ending in the mid 1960s. There were plans for the Welsh Assembly to be homed here, but the Welsh electorate voted against devolution in 1979. There were also plans for S4C headquarters to be based here in 1983.

Fel rhan o'r gwaith i adnewyddu'r adeilad, bydd ystafell newydd yn cael ei chreu yn agos i'r to a fydd yn dal dros 200 o bobl gyda bar a lle bwyta yno.

As part of the restoration worka new room will be created above the main hall with a dining area and bar holding over 200 people.

Mae'r brif neuadd wedi cynnal nifer o gyngherddau gan enwau mawr fel Manic Street Preachers, Arctic Monkeys, Van Morrison a Biffy Clyro. Mae ffilmiau a rhaglenni teledu wedi'u ffilmio yn yr adeilad hefyd, fel Dr Who, Sherlock, Stella, Casualty a chystadleuaeth Miss Wales.

The main hall as been used to stage concerts for big names such as the Manic Street Preachers, Artic Monkeys, Van Morrison and Biffy Clyro. Television programmes and various shows have also used the venue, such as Dr Who, Sherlock, Stella, Casualty and the Miss Wales finals.

Roedd Banc Barclays wedi ei leoli yng nghefn yr adeilad ar un adeg, ac roedd yn cael ei rentu fel swyddfeydd i gwmnïau. Ond dinistriwyd rhan yma'r adeilad mewn tân yn yr 1980au. Mae cynlluniau i leoli un o'r bariau newydd yma wedi i'r gwaith o adnewyddu gael ei gwblhau.

A bar will be situated at the back of the building whereBarclays Bank and other offices once were. This part of the building was destroyed in a fire in the 1980s. A bar will be located here after the renovation is complete.

Mae'r cyntedd yn dechrau cymryd siâp. Y cam nesaf fydd adnewyddu'r lloriau.

Progress is being made in the lobby area, with new flooring coming as part of the new developments.

Mae disgwyl y bydd y datblygwyr newydd yn talu dros £40m i adnewyddu'r adeilad.

It's expected that the developers will spend over £40m on the project.

Mae rhannau o'r llawr cyntaf yn agos i'w cwblhau.

Parts of the first floor are nearing completion.

Bydd 40 o ystafelloedd gwely yn rhan o'r gwesty wedi i'r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau.

There will be 40 bedrooms in the building by the time the restoration is complete.

Mae disgwyl i'r ystafelloedd gwely gael eu henwi ar ôl enwogion o Gymru, gyda Roald Dahl a Tom Jones wedi eu clustnodi yn barod.

It's expected that the rooms will be named after famous Welsh people including Roald Dahl and Tom Jones.

Yn y gorffennol cafodd y llawr isaf ei orchuddio yn dilyn gwaith adnewyddu. Yma bydd y ganolfan dreftadaeth am hanes yr adeilad a'r diwydiannau trwm yng Nghymru yn cael ei leoli.

The heritage centrelooking at the history of the building and the trade industry of Cardiff Bay will be located on the ground floor.

Y gwaith o ailgynllunio'r fynedfa.

Work is well underway to transform the entrance to the building.

Darlun arlunydd o'r gwaith wedi ei gwblhau.

An artist illustration of the final plans for the Exchange Hotel.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd 2018.

It's expected that the work will be finished by the end of 2018.