Galw i gael gwared ar gydaddoli mewn ysgolion
Mae dwy ferch o Gaerdydd wedi dechrau deiseb er mwyn ceisio annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar gydaddoli mewn ysgolion.
Ar ôl cael llond bol ar gydadrodd Gweddi'r Arglwydd, mae Rhiannon a Lily yn dweud ei bod hi'n bryd i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ac ysgolion ar draws Cymru gyfan "foderneiddio".
Rhodri Llywelyn aeth am sgwrs â'r ddwy.