Malan Wilkinson yn cwrdd â'i 'hachubwr' am y tro cyntaf
Mae dynes o Wynedd oedd ar fin niweidio ei hun wedi cael cyfle i ddiolch i'r dyn a "achubodd ei bywyd", mewn cyfarfod saith mis yn ddiweddarach.
Ym mis Tachwedd y llynedd, roedd Malan Wilkinson o Gaernarfon "mewn lle tywyll iawn", nes i athro ysgol o Fethesda, Gwyn Jones ddod heibio a'i "hachub".
Dros y penwythnos fe wnaeth rhaglen y Post Cyntaf, Radio Cymru drefnu fod y ddau yn cwrdd eto, yn dilyn neges gan Malan yn diolch i'w "harwr" ar wefan Facebook.