Prosiectau cymunedol: Galw am ostyngiad treth
Dylai unigolion sy'n buddsoddi mewn prosiectau cymunedol gael gostyngiad yn eu treth, yn ôl arbenigwr yn y maes.
Daw galwad Hefin Wyn wrth i gymuned yn Sir Benfro obeithio prynu eu tafarn leol.
Teleri Glyn Jones sydd wedi bod yn clywed sut y gallai'r fenter i brynu Tafarn Sinc ysbrydoli cymunedau ledled Cymru i fuddsoddi'n lleol.