System casglu sbwriel Aberystwyth 'ddim yn gweithio'
Dydy system casglu sbwriel Aberystwyth "ddim yn gweithio", yn ôl rhai o fusnesau'r dre'.
Mae 'na bryderon fod gwylanod yn creu llanast drwy dorri bagiau sbwriel a gwasgaru gwastraff ar hyd y strydoedd.
Dywedodd Medina Rees, sy'n rhedeg bwyty, bod "angen gwneud rhywbeth i daclo hynny".
Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae bagiau bin gwrth-wylanod yn cael eu defnyddio eisoes o fewn y sir.