Car yn chwalu 'stafell ymolchi ar ôl taro tŷ

Mae dyn o Bwllheli yn dweud fod ei bartner yn lwcus i fod yn fyw ar ôl i gar daro yn erbyn tŷ a chwalu'r ystafell ymolchi.

Dywedodd Danny Jones fod ei bartner Abbey Claybrook wedi bod yn yr ystafell eiliadau cyn y gwrthdrawiad.

Hefyd yn y tŷ ar y pryd roedd eu babi 15 mis oed.

"Pe bai o wedi digwydd pum eiliad yn gynt byddai Abbey wedi ei lladd a bydda fy mhlentyn wedi colli ei fam," meddai Mr Jones.