Conner Marshall: 'Dyw'r galar a'r boen byth yn lleihau'

Mae'r darlun o Conner Marshall gydag anafiadau erchyll yn dal i beri poen i'w fam.

Dwy flynedd a hanner yn Ă´l, fe wnaeth ddyn ymosod ar Conner, oedd yn 18 oed, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd y llofrudd David Braddon ei garcharu am oes ym mis Mehefin 2015.

Ond mewn cyfweliad â'r BBC, dywedodd Nadine Marshall bod "y galar a'r boen byth yn lleihau" yn dilyn marwolaeth ei mab.