Symud sawl clinig yn Llambed yn bryder
Wedi i sawl clinig symud o ardal Llambed yn ddiweddar mae 'na bryderon bod cleifion yn gorfod teithio yn bell i gael triniaeth.
Yn ddiweddar mae nifer o glingau wedi cael eu symud. Yn eu plith y clinig therapi iaith a lleferydd, y clinig paediatreg a chlinig methiant y galon. Yn ogystal mae'r deintydd cymunedol wedi cael ei symud.
Yn ôl y Bwrdd Iechyd, y gobaith yw adfer y gwasanaeth ond does dim dyddiad hyd yma.
Gohebydd Newyddion 9, Teleri Glyn Jones fu'n clywed cwynion y trigolion.