Profiad hunan-niweidio: 'Cwbl rydym eisiau yw diflannu'
Mae'r heddlu yng Nghymru yn galw am well addysg iechyd meddwl mewn ysgolion ar ôl cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae Samariaid Cymru hefyd wedi dweud eu bod nhw wedi gweld mwy o bobl ifanc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta a hunan-niweidio.
Mae Angharad May yn 28 oed, ac wedi bod yn anafu ei hun ers yn chwech oed. Nia Medi fu'n ei holi.