Cyngor yn dweud eu bod yn cadw golwg manwl wedi'r tirlithriad diweddaraf mewn pentref

Ar ôl tirlithriad arall ar fynydd yn Ystalafera mae peirianwyr Cyngor Castell-nedd Port-Talbot yn cadw golwg manwl ar y sefyllfa.

Fe lithrodd 10 tunnell o bridd a cherrig ger Heol Cyfyng ym mhentref Pant-teg. Chafodd neb eu hanafu.

Mae nifer o bobl eisioes wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd pryder am ddiogelwch wedi tirlithriadau blaenorol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn fod cerrig gafodd eu gosod yn 2012 wedi rhwystro'r pridd a'r cerrig rhag cyrraedd y ffordd.