Codi tŷ unnos Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth wedi bod yn gwthio ffiniau adeiladu tai cynaliadwy ers ei sefydlu yn 1973.
Ond nos Fawrth, 22 Mai, roedd y Ganolfan yn destun arbrawf oedd yn cyfuno adeiladu cynaliadwy a hen draddodiad Cymreig.
Ar raglen George Clarke's Amazing Spaces ar Channel 4, wnaeth tîm adeiladu'r rhaglen, gyda chymorth rhai o gyfeillion y Ganolfan a chrefftwyr lleol, geisio ail greu hen draddodiad y tŷ unnos ar safle'r Ganolfan yn hen chwarel lechen Llwyngwern.
Yn ôl yr hen draddodiad, os roeddech yn medru adeiladu tŷ gyda phedwar wal, to a thân yn llosgi yn y grât mewn llai na diwrnod, yna roedd y tŷ a'r tir lle'r oedd y tŷ'n sefyll yn berchen i chi.
Mae'r pren ar gyfer prif ffrâm y tŷ wedi cyrraedd y safle - y cyfan o ffynhonnell leol wrth reswm.
Weithiau mae'r hen draddodiadau yn gorfod plygu i draddodiadau newydd yr hi-viz a hetiau caled.
Gwell mesur dwywaith a thorri unwaith.
Mae'n anodd gweithio gyda rhywun yn eich gwylio'n ddiddiwedd.
Ar ôl diwrnod, a noson galed a gwlyb iawn, llwyddodd y tîm adeiladu i orffen y tŷ, a hyd yn oed llwyddo i roi carthen ar y gwely.
Ac yn ôl canllawiau'r traddodiad, roedd rhaid cael tân yn y grât a mwg yn codi o'r simne.
Mae'r cyfan wedi gorffen... amser am lun o'r tîm i gofio.
A dyma'r tŷ unnos yn ei gynefin, ac mae bellach ar agor i'r cyhoedd yn y Ganolfan ym Machynlleth.
Orielau eraill ar Cymru Fyw: