Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd 2018
- Cyhoeddwyd
Rhai o'r golygfeydd ar y Maes ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd 2018 yn Llanelwedd.

Pan dyw'r plant ddim ar y trampolins, mae'n gyfle i'r staff gael tro

Cystadleuwyr medal y dysgwyr: Rebecca Morgan, Jessica Harvey, Alys Williams a Jonas Rajan

Llywydd y dydd heddiw, Steve Hughson

Plîs peidiwch â thrio hyn adref gyda phlatiau gorau Mam a Dad!

Does dim dal pwy welwch chi'n cerdded drwy'r dorf! 'Sgwn i am beth mae Rhys Meirion yn chwilio?

Mae'n bwysig cael hoe i ddal lan gyda'ch negeseuon weithiau

Oes gwersi ukelele 'heavy metal' yn cael eu cynnal heddiw ar y Maes?

Plant Ysgol Gynradd Llanrug yn perfformio yng nghystadleuaeth llefaru blwyddyn 6 a iau

Mae'n bwysig cael trefn, bob amser

HMS Morris yn perfformio ar lwyfan y Maes heddiw
Mwy o'r Urdd: