Lluniau: Dydd Mercher Eisteddfod yr Urdd 2018
- Cyhoeddwyd
'Dyn ni hanner ffordd drwy'r wythnos yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.
Dyma rai o'r golygfeydd o'r Maes yn Llanelwedd ddydd Mercher:

Enillydd y Fedal Ddrama, Mirain Alaw Jones

Criw Stwnsh yn rhoi sioe ar y Maes

Mae'n wir bod yr Urdd yn rhoi help i blant gyrraedd y brig

Mistar Urdd yn cael cymorth i ffitio mewn i lifft

Ioan o Meisgyn yn cael trafferth gyda'i stilts

Cyn cystadlu ar y piano mae'n rhaid sicrhau bod y sedd yr uchder cywir, fel mae Charlotte Kwok yn gwybod yn iawn

Gwynfor Davies: 'siwpar stiward' cefn llwyfan ers dros 26 mlynedd

Adran Llwynbrwydrau, Abertawe yn y gystadleuaeth cân actol blwyddyn 6 neu iau

Mae hyd yn oed cyfle i aelodau'r Urdd badlo canŵs ar y Maes eleni!

Nid pobl yn unig sy'n crwydro'r Maes
Mwy o'r Urdd: