Lluniau: Dydd Iau Eisteddfod yr Urdd 2018

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddiwrnod y Cadeirio yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.

Dyma rai o'r golygfeydd o'r Maes yn Llanelwedd ddydd Iau:

Osian Wyn Owen o'r Felinheli ydy Prifardd Eisteddfod Yr Urdd 2018, enillodd y gadair mewn seremoni ddydd Iau.
Disgrifiad o’r llun,

Osian Wyn Owen o'r Felinheli ydy Prifardd Eisteddfod Yr Urdd 2018, enillodd y gadair mewn seremoni ddydd Iau.

Torf
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf ar y maes...cyn y glaw

Nia Roberts, yr actores ydy llywydd y dydd ar faes yr Urdd ddydd Iau
Disgrifiad o’r llun,

Yr actores Nia Roberts ydy llywydd y dydd ar faes yr Urdd ddydd Iau

Meibion ac wyrion Gwenda Owen, ar y diwrnod y mae'n hi'n derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes am ei chyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Disgrifiad o’r llun,

Meibion ac wyrion Gwenda Owen, ar y diwrnod y mae'n hi'n derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes am ei chyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Teulu o Bontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu Pike o Bontypridd yn mwynhau hufen iâ ar ôl bore o ragbrofion gyda Ysgol Gartholwg

Glenys a Fflur
Disgrifiad o’r llun,

Glenys a'i merch Fflur yn gwirfoddoli ar stondin Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. "Dewch yn llu i'r brifddinas flwyddyn nesa'" yw'r neges!

Poppy o Gaerdydd yn rhoi gwên i mam, ar y wal ddringo
Disgrifiad o’r llun,

Poppy o Gaerdydd yn rhoi gwên i mam, ar y wal ddringo

maes
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau perfformiad Los Blancos ar lwyfan y Maes yn yr haul cynnes amser cinio

Hir yw pob aros
Disgrifiad o’r llun,

Hir yw pob aros am ginio...

Brawd a chwaer yn creu cacen dywod yn y gegin fwd
Disgrifiad o’r llun,

Chwaer a brawd, Martha a Garmon yn creu cacen o dywod wrth y gegin fwd, ym mhabell y Mudiad Meithrin

Richard James
Disgrifiad o’r llun,

Richard James yn mwynhau arlwy yr Eisteddfod, ef sy'n gyfrifol am y sgrin fawr ar y Maes

Mwy o'r Urdd: