Y Sioe Fawr: Lluniau dydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Oni bai am ambell i gawod o law, mae hi wedi bod yn ddiwrnod cynnes ar y cyfan yn Llanelwedd. Dyma rai o'r golygfeydd o'r maes ar ddydd Mawrth:


Yr efeilliaid Aled a Dewi o Lanymddyfri yn mwynhau eistedd ar gefn beic cwad - efallai bod pump oed ychydig yn rhy ifanc i yrru un...


Roedd yna ambell gawod ond ar y cyfan roedd hi'n sych ac yn gynnes ar faes y Sioe ddydd Mawrth, ac yn eitha' trymaidd.


Mae'r Neuadd Fwyd yn lle pwysig i unrhyw un sy'n hoffi cig, caws a phob math o fwydydd eraill... ac yn baradwys i unrhyw un sydd â dant melys!


Bedwyr (wyth oed) a'i frawd mawr Guto (10) o Bontargothi yn Sir Gâr yn cael codi Cwpan Her Ewrop ger stondin Gleision Caerdydd. Enillodd y Gleision y rownd derfynol yn erbyn Caerloyw yn Bilbao ym mis Mai.


Oen gwryw Charollais yn cael ei osod i'w le er mwyn ei arddangos i'r beirniaid.


Un o'r ymwelwyr ieuengaf yn y sioe eleni; Gwilym Tomos o Dreharris, sy'n bedair wythnos oed.


Lydia, sy'n ddwy oed o Aberaeron, yn cael hwyl yn bwydo yn y sied geifr.


Mae'r Gymdeithas Lysiau Cenedlaethol yng Nghymru wedi creu arddangosfa o'r rhai o'r pencampwyr yn y cystadlaethau tyfu llysiau eleni.


Non, Rhodri a Gruffudd o bentref Mydroilyn ger Llanbed yn ymarfer at gynrychioli Cymru yn y rheng flaen yng Nghwpan y Byd 2027.


Chi'n beilo nawr?! Y Welsh Whisperer ar y llwyfan perfformio yn diddanu'r gynulleidfa gyda'i ganeuon amaethyddol.


Becky a Martin o Lanerfyl yn paratoi eu dafad North Country Cheviot Hill cyn cystadlu.


Cyffro'r sioe yn y tywydd clos wedi bod yn ormod i rai...

Mwy o'r Sioe ar Cymru Fyw: