Y Sioe Fawr: Lluniau dydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Roedd dechrau niwlog i drydydd dydd y Sioe Fawr yn Llanelwedd, ond buan y daeth yr haul tanbaid!

Pawb yn edrych yn ddigon o sioe, ac yn barod am gystadleuaeth y tîm o dri cyfandirol


Mae'n debyg nad ydy Flossy, y ddafad Valais Blacknose, yn hoffi cael tynnu ei llun


Mae'n siŵr fod band y Royal Welsh yn boeth iawn yn eu lifrau coch... ond maen nhw'n dal i wenu!


Dydd Mercher yw dydd y cneifio - ac roedd Canolfan Gneifio Meirion yn orlawn wrth i'r cneifwyr wibio yn y rowndiau rhagbrofol


Tybed oes 'na ddigon o gaws...?


Cafodd Betty lawer o hwyl ar y trampolîn yn y Pentref Chwaraeon - am ffordd hyfryd i ddathlu ei phen-blwydd yn wyth ddydd Sul!


Ti 'di ennill! Ty'd â sws i mi!


Mae'r anifeiliaid yn gallu achosi ciwiau yn y Sioe...


...felly diolch byth fod yna rywun i reoli'r traffig!


Ar be' ti'n edrych?


Un berfa o nifer...


Mae'r Pafiliwn Mêl a Garddwriaeth yn llawn blodau hardd a lliwgar


Cyfle i gael hoe fach yn yr haul, wrth wrando ar leisiau hudolus Sorela

Hefyd o ddiddordeb: