Carcharu heddwas gyda Heddlu De Cymru am ddwyn £30,000
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas gyda Heddlu De Cymru wedi ei garcharu am 16 mis wedi iddo ddwyn dros £30,000 gan glwb athletau ei lu ei hun.
Fe wnaeth y Cwnstabl Justin Lott, 40 o Ben-y-bont, gyfaddef dwyn arian ac offer o'r clwb roedd yn rhedeg gyda'i wraig - gan gynnwys pres a gasglwyd i elusen.
Plediodd Lott yn euog i dri chyhuddiad o ddwyn, wrth weithio fel ysgrifennydd yng Nghlwb Athletau Adran Ganolog Heddlu De Cymru.
Dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins fod hyn yn enghraifft o'r "math waethaf o anonestrwydd".
Yn ôl yr amddiffyniad roedd Lott wedi casglu dyledion personol o £326,000 ac wedi dioddef o iselder am flynyddoedd.
'Gweithred ffiaidd'
Digwyddodd y troseddau rhwng Chwefror 2012 ac Ebrill 2016, tra roedd Lott yn ysgrifennydd y clwb.
Cafodd nifer o eitemau eu dwyn gan gynnwys teledu, gliniadur ac arian.
Ychwanegodd Mr Jenkins nad oes gan Lott "unrhyw un i'w feio ond ei hun".
"Mae cymryd arian gan elusen yn weithred ffiaidd, sydd hyd yn oed yn waeth gan ystyried dy fod yn gyfrifol am y casgliad ac yn heddwas," meddai.
Dywedodd Jonathan Rees ar ran yr amddiffyn fod Lott yn "bwriadu rhoi'r arian yn ôl", ond fod ei sefyllfa ariannol wedi mynd "allan o reolaeth" tan nad oedd o byth mewn sefyllfa i ad-dalu'r arian.
Cafwyd gwraig Lott, Sharyn - sydd hefyd yn heddwas - yn ddieuog o'r un cyhuddiad ym mis Mehefin, ac mae hi bellach wedi ymddiswyddo.
Yn ôl y Prif Uwch-arolygydd Dorian Lloyd, bydd Ms Lott hefyd yn wynebu proses ddisgyblu ffurfiol yn hwyrach eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018