Carnifal y Môr ym Mae Caerdydd
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn dweud eu bod nhw'n "edrych ar y posibilrwydd" o ailgynnal yr orymdaith i gyd-fynd ac arddangosfa Carnifal y Môr.
Bob nos mae gwaith celf arbennig yn cael ei arddangos tu allan i adeilad y Senedd, gan gynnwys rhai delweddau'n cael eu taflunio ar sgriniau dŵr uwchben y Bae, ond roedd yr orymdaith i gyd-fynd a'r sioe ar nos Sadwrn yn unig.
Yn ôl y Brifwyl maen nhw wedi derbyn sawl cais i'r orymdaith, a ddigwyddodd ar ddiwedd cyngerdd nos Sadwrn yng Nghanolfan y Mileniwm, gael ei chynnal eto er mwyn "cloi" gweithgareddau'r wythnos.
Dyma ran o'r orymdaith: