Lluniau'r Steddfod: Dydd Llun
- Cyhoeddwyd
Diwrnod y Coroni, diwrnod urddo aelodau newydd i Orsedd y Beirdd, a diwrnod llawn cystadlu yn y Steddfod. Sioned Birchall yw ein ffotograffydd gwadd ar faes yr Eisteddfod.

Alwena Mair Owen yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth Unawd dan 12

Ymwelwyr o Tsieina, Li Dan Fu a Yu Jie Fu, yn mwynhau eu Eisteddfod gyntaf

Aelod cŵl iawn o'r osgordd ar ei ffordd at Gerrig yr Orsedd

Dau aelod o'r Orsedd - Morgan o'r Bont a Dyfrig Cilgwyn yn eu gwisgoedd glas

Creu Gwir Fel Gwydr o Ffwrnais Awen - yr Orsedd yng nghysgod Canolfan y Mileniwm

Iechyd da i'r derwyddon newydd i gyd!

Mae golwg a theimlad yr Ŵyl yn wahanol iawn eleni

Ar un adeg, roedd adeilad ysblennydd y Pierhead yn ganolbwynt i'r byd masnach Cymreig

Branwen o'r Brifddinas a'i gŵr Elis gyda'i gilydd yn eu gwisgoedd gwyrdd

A Oes Heddwch?

Cyfle prin i Ashok Ahir, cadeirydd prysur Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018, roi ei draed i fyny

Dal y foment

Aelod newydd yn cael ei derbyn i'r Orsedd

Aelodau'r Orsedd yn ymgynull gefn llwyfan

Cyrraedd y Pafiliwn ar gyfer prif seremoni'r diwrnod

Mae enillydd y Goron ar ei thraed ac mae pawb wrth ei boddau - gan gynnwys Dyfed!

Llongyfarchiadau Catrin Dafydd

Hefyd o ddiddordeb
Mwy o'r Eisteddfod ar ein gwefan arbennig, dolen allanol.