Lluniau'r Steddfod: Dydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Diwrnod Tlws y Cerddor a'r Fedal Ryddiaith, a diwrnod yn llawn cystadlu ym Mae Caerdydd. Cofiwch bod fideo byw o'r Pafiliwn a'r holl ganlyniadau ar gael ein gwefan arbennig o'r Steddfod.

Daeth ychydig o law, ond dim digon i amharu ar fwrlwm y Bae

Siôn a'i fam Ffion yn mwynhau criw Cyw

Gorffen paratoi cyn noson gyntaf Maes B - Band Pres Llareggub sy'n cloi'r nos Fercher

Ymarfer yn y Bar Syched

Siôn, Gwion, Manon a Non o Saron, Caernarfon yn mwynhau seibiant bach yn y Bae

John Pierce Jones yn cymryd rhan mewn sesiwn yn y Babell Lên i goffau y diweddar Meic Povey. Ei chwaer, Buddug Povey, sydd ar y chwith

Cwmni Maes yn perfformio addasiad o 'Diwedd y Byd' gan Meic Povey yn Theatr y Maes

Tim Heeley, enillydd Tlws y Cerddor, yn cael ei gyfweld gan Steffan Powell

Dawns y (potiau) blodau? Perfformiad creadigol tu allan i Ganolfan y Mileniwm

Gwarchodwyr y maes - heddlu y tu allan i'r Senedd

Y band Adwaith o Gaerfyrddin yn canu set acwstig yn Caffi Maes B

Manon Steffan Ros, enillydd y Fedal Ryddiaith
Hefyd o ddiddordeb
Mwy o'r Eisteddfod ar ein gwefan arbennig, dolen allanol.