Lluniau'r Steddfod: Dydd Iau
- Cyhoeddwyd
Diwrnod Y Fedal Ddrama a diwrnod o ddathlu wrth i Gaerdydd groesawu'r beiciwr Geraint Thomas nôl adref.
Cofiwch bod yr holl ganlyniadau, uchafbwyntiau'r cystadlu a'r straeon newyddion ar ein gwefan arbennig o'r Steddfod.

Huw Owen, neu Huw Cyw fel mae'n cael ei nabod gan genhedlaeth o blant ifanc!

Y gantores Sara Davies yn canu cân emosiynol oedd wedi'i chyfansoddi gan ei thaid

Mascot Caerdydd, Bartley Bluebird, yn paratoi i ddiddanu'r holl blant ar y Maes

Y gwyddonydd Dr Hefin Jones yn cael ei gyfarch gan Dr Siân Griffiths wrth iddo dderbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni

Aelodau o Gôr Dysgwyr Porthcawl cyn camu ar lwyfan y Pafiliwn

Seren Jones yn cyfweld Matt Spry, enillydd tlws Dysgwr y Flwyddyn 2018

Rhydian Gwyn Lewis, enillydd y Fedal Ddrama, yn wên o glust i glust

Aelodau Côr Daw wedi gwisgo fel Elton John i ganu yng nghystadleuaeth y Côr Dysgwyr!

Band Pres Llareggub yn diddanu'r dorf cyn i Geraint Thomas ymddangos ym Mae Caerdydd

Waw! Y dorf i groesawu Geraint Thomas wrth y Senedd

A dyma'r dyn ei hun!

Geraint Thomas gydag Elin Jones, Catrin Heledd a Carwyn Jones yn canu'r anthem ar risiau'r Senedd

Sue Flowers o Gwmllynfell wedi gwisgo lliw addas i groesawu Geraint Thomas

...a'r ci bach yma!

Ac ymlaen i ganol y ddinas, wrth i dorf arall groesawu Geraint Thomas ger Castell Caerdydd
Hefyd o ddiddordeb:
Mwy o'r Eisteddfod ar ein gwefan arbennig, dolen allanol