Lluniau gorau'r wythnos o Eisteddfod Caerdydd 2018
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwedd wythnos unigryw a chofiadwy ym Mae Caerdydd, dyma gyfle i edrych nôl ar Eisteddfod Genedlaethol 2018 drwy gasgliad o luniau gorau'r wythnos.

Ymwelwyr o China, Li Dan Fu a Yu Jie Fu, yn mwynhau eu Eisteddfod gyntaf

Huw Stephens a Jason Mohammad, y ddau o Gaerdydd, yn rhannu jôc ar y Maes

Dydd Llun cafodd Bae Caerdydd brofi gogoniant Gorsedd y Beirdd

Cyfle prin i Ashok Ahir, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018, roi ei draed i fyny

Catrin Dafydd, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol 2018

Efeilliaid, Srivik a Nivik (4 oed) o Gaerdydd yn mwynhau hufen iâ gyda Mam a Dad

Côr Morgraig yn ymarfer funud olaf cyn mynd ar y llwyfan

Y band Adwaith o Gaerfyrddin yn canu set acwstig yng Nghaffi Maes B

Anhygoel! Y dorf i groesawu'r beiciwr Geraint Thomas wrth y Senedd ddydd Iau

Geraint Thomas yn cyfarch y dorf ar risiau'r Senedd

Oherwydd y glaw fe gynhaliwyd seremoni'r Orsedd ym Maes B ddydd Gwener

"Braf bod nôl ym Maes B, profiadau ffantastig yn tyfu lan yn y maes ieuenctid" meddai'r chwaraewr rygbi Jamie Roberts, oedd yn cael ei urddo ddydd Gwener

Ai dyma'r tro cyntaf i'r ddawns flodau gael ei pherfformio ym Maes B?

Bardd y Gadair, Gruffudd Eifion Owen, yn cofleidio Osian Rhys Jones, enillydd y Gadair llynedd

'Jamio' traddodiadol yn y Tŷ Gwerin

Dafydd a Llew yn mwynhau'r Steddfod! Diolch i Gaerdydd am y croeso - hwyl tan y flwyddyn nesaf
Hefyd o ddiddordeb:
Mwy o'r Eisteddfod, yn cynnwys y canlyniadau ac uchafbwyntiau'r cystadlu, ar ein gwefan arbennig, dolen allanol