'Dim ond gweithredu cymunedol all ddiogelu'r Gymraeg'

Mae prif weithredwr olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dweud mai gweithredu ar lefel leol all sicrhau dyfodol yr iaith, yn hytrach na pholisïau wedi eu llunio ym Mae Caerdydd.

Roedd Meirion Prys Jones yn ymateb i ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos faint o blant sy'n siarad yr iaith ar yr aelwyd.

Mae'r ffigyrau gafodd eu casglu ym mis Ionawr yn dangos gostyngiad mewn rhai ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn draddodiadol yn gadarnleoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cytuno gyda Meirion Prys Jones" mai "pobl sy'n newid diwylliant, gyda chymorth y llywodraeth", a bod sawl cam ar droed i helpu pobl fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg.