Pryder casglwyr sbwriel am doriadau swyddi posib
Mae casglwyr sbwriel yng Ngwynedd yn pryderu y gallai cynlluniau'r cyngor i dorri swyddi beryglu diogelwch a safon y gwasanaeth.
Maen nhw'n pryderu y gallai 17 o swyddi gael eu torri.
Yn ôl y gweithwyr, mae pryder ynglŷn â lleihau eu horiau gwaith ar y lorïau, fyddai'n golygu bydd y gyrwyr hefyd yn gorfod casglu'r sbwriel.
Roedd 'na gyfarfod ym Montnewydd nos Lun i drafod y sefyllfa a'r gobaith yw bydd cyfarfod gyda phrif swyddogion Cyngor Gwynedd yn ddiweddarach yn yr wythnos i drafod pryderon y gweithwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd nad ydyn nhw'n "disgwyl i'r drefn o yrrwyr yn casglu sbwriel arwain at broblemau" os y byddai'n cael ei ehangu.
Dyma adroddiad Sion Tecwyn.