Oriel Luniau: Gwobrau BAFTA Cymru 2018
- Cyhoeddwyd
Ar nos Sul, 14 Hydref cafodd seremoni BAFTA Cymru ei chynnal yng Nghaerdydd.
Roedd yna lu o sêr wedi ymgynnull yn y brifddinas er mwyn dathlu talent y byd ffilm a theledu yng Nghymru.
Fe anfonodd Cymru Fyw y ffotograffydd Sioned Birchall i Neuadd Dewi Sant i weld pwy oedd ar y carped coch.


Y DJ a'r cyflwynydd hoffus o Gaerdydd, Huw Stephens oedd yn llywio'r noson.


Daeth yr actor Ioan Gruffudd â dipyn o sbarcl Hollywood i'r carped coch.


Enillodd Eve Myles wobr yr actores orau am rôl fel Faith Howells yn y ddrama Keeping Faith.


Roedd perfformiad byw yn y seremoni gan y band Who's Molly. Mae eu prif ganwr, Karl Morgan, yn dod o Abertawe.


Y comedïwr o Gaerfyrddin, Rhod Gilbert.


Y cyflwynydd chwaraeon a theithio, Amanda Protheroe-Thomas.


Cyflwynydd Sunday Morning Live ar y BBC a Good Morning Britain ar ITV, Sean Fletcher.


Y cyn-chwaraewr rygbi a gafodd 100 o gapiau dros Gymru, Gareth Thomas. Enillodd 'Alfie' wobr BAFTA Cymru fel cyflwynydd Alfie v Homophobia: Hate in the Beautiful Game.


Jack Rowan, a gafodd y tlws am yr actor orau am ei rôl yn Born to Kill.


Wyneb cyfarwydd i wylwyr Wales Today, y newyddiadurwr Lucy Owen.


Yr actor amryddawn, Rhodri Meilir, oedd wedi ei enwebu am ei rôl yn y gyfres Craith.


Elen Rhys, yr actores a oedd yn y ffilmiau Apostle a World War Z.


Mark Lewis Jones, sydd wedi actio mewn cyfresi fel Keeping Faith yma yng Nghymru yn ogystal â ffilmiau mawr Hollywood fel Star Wars: The Last Jedi.


Y gyflwynwraig Angharad Mair.


Mae Amanda Mealing yn gyfarwydd i lawer am chwarae Connie Beauchamp yn y gyfres Casualty, sy'n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd.
