Lluniau: Pan ddaeth storm Callum i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Roedd hi'n benwythnos pryderus ac anodd i nifer o bobl wrth i storm Callum chwythu ei ffordd ar draws rhannau helaeth o Gymru gan adael difrod mawr ar ei ôl.

Dyma olwg ar rai o ddelweddau'r penwythnos:

DolgellauFfynhonnell y llun, Rod Davies

Cafodd tîm rygbi Dolgellau dipyn o hwyl yn ceisio chwarae'u gêm ar gaeau'r Marian Ddydd Sadwrn ar ôl y glaw trwm.

line
Crug hywel

Crug Hywel dan ddŵr.

line
bae caerdydd

Roedd y dŵr ym Mae Caerdydd wedi codi dros y llwybr ger yr harbwr.

line
Llanbedr Pont Steffan

Dyma sut oedd hi i bicio i'r siop yn Llanbedr Pont Steffan Ddydd Sadwrn....

line
llanbed

Maes parcio archfarchnad Co-operative Llanbedr Pont Steffan yn gyfangwbl dan ddŵr.

line
AberaeronFfynhonnell y llun, Shane Jones

Roedd y dŵr yn eithriadol o uchel yn Aberaeron, gan droi rhai o'r cychod yn yr harbwr ar eu hochr.

line
DolgellauFfynhonnell y llun, Rod Davies

Roedd Y Marian yn Nolgellau yn debycach i bwll nofio erbyn diwedd y prynhawn.

line
niwed

Dŵr yn llifo oddi ar y caeau oedd yn gyfrifol am lawer o'r difrod a'r llifogydd.

line
Fairfach

Gyrrwr yn ceisio mynd drwy'r dyfroedd yn Ffairfach Ddydd Sadwrn.

line
Coeden wedi syrthio

Coeden yn disgyn ar ben car yng Nghaerdydd.

nofio yn LlanbedFfynhonnell y llun, William Rathouse

Rhai o drigolion Llanbed yn manteisio ar y llifogydd mewn ffordd anarferol

line
cwchFfynhonnell y llun, Georgina Collins

Roedd y gwasanaethau brys yn brysur iawn dros y penwythnos.

line

Mwy am y storm!