Lluniau trawiadol o fwyngloddion copr, plwm a llechi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Ioan Lord, 20 oed, wedi bod yn astudio ac archwilio'r hen weithfeydd mwyn o amgylch Aberystwyth ers ei fod yn chwech oed.
Mae ar fin cyhoeddi cyfrol unigryw: 'Rich Mountains of Lead': The Metal Mining Industry of Cwm Rheidol and Ystumtuen, cyfrol a ddechreuodd ei ysgrifennu pan oedd ond yn wyth oed.
Dyma ddetholiad o luniau o'i deithiau tan ddaear yng Nghwm Rheidol, a thros Gymru.
Mae Ioan yn astudio Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, a phan nad yw'n gweithio fel gard a thaniwr ar Reilffordd Cwm Rheidol, mae'n gweithio fel curadur ac yn ehangu arddangosfeydd diwydiannol yn amgueddfeydd Corris a Gwaith Mwyn Llywernog ym Mhonterwyd.
"Chwarel lechi ger Blaenau Ffestiniog. Tua hanner milltir o dan ddaear, mae'r hen inclen gyda'r platfform codi a'r peirianwaith weindio dal yna!
"Fedrwch chi weld y byrddau troi ar gyfer y wageni llechi dal ar y platfform codi ar waelod y llun."
Gofal pia hi!
"Dyma hen olwyn ddŵr a gafodd ei gosod mewn hen gloddfa gopr yng Nghanolbarth Cymru yn yr 1860au.
"Fel 'da chi'n gweld mae dal yna ac yn eithaf cyfan!"
"Dyma fi ym mherfeddion Gwaith Dyffryn Castell, Ponterwyd, Ceredigion."
Lawr yn nyfnderoedd chwarel lechi Geuwern, Corris
"Mae taith gerdded yn troi mewn i daith danddaearol fel arfer!
"Coed Gwydyr ger Llanrwst... roedd angen i fi stopio a throi nôl yn y pen draw gan oedd o'n mynd mor bell... roedd peiriannau, winches, trycs a phob dim dal mewn 'na!"
Dyma ddau rhan hollol wahanol o fywyd Ioan... dan ddaear yn dringo a chloddio drwy'r düwch.
...ac yn gweithio fel giard ar Reilffordd Cwm Rheidol.
Mwy o luniau ar Cymru Fyw: