Dathlu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf
- Cyhoeddwyd
Ddydd Sul 11 Tachwedd, mae hi'n gan mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu dathlu ar draws y byd pan fu diwedd ar yr ymladd, a daeth cymunedau ynghyd yng Nghymru i nodi'r heddwch.
Dyma sut olygfa oedd yn Sgwâr Rhuthun, pan ddaeth y cyhoeddiad fod y rhyfel, o'r diwedd, wedi dod i ben.
Hen lun o bobl yn eu gwisgoedd gorau'n dathlu'r cadoediad...'Dyw'r lleoliad ddim yn sicr ond mae'n bosib taw yn Machen, ger Caerffili, oedd y digwyddiad.
Gorymdaith i 'ddathlu'r' fuddugoliaeth trwy Ddolgarrog.
Moduron yn cael eu defnyddio i ddathliadau'r cadoediad yng Nglyn-nedd.
Derbyniodd disgyblion ysgol Caerdydd gwpanau i nodi'r diwrnod pwysig.
Wrth gwrs, parhaodd y dathlu ymhell i'r flwyddyn nesaf, wrth i'r milwyr ddychwelyd gartref, i groeso cynnes. Cafodd y te parti yma ei drefnu yn Sefydliad y Gweithwyr Abercynon i'w croesawu yn ôl.
Cafodd 19 Gorffennaf 1919 ei neilltuo fel Diwrnod Heddwch penodol, a bu dathlu ar draws Cymru. Dyma lun o filwyr wedi'u rhyddhau yn y dathliadau heddwch yng Nghwmfelin, Morgannwg.
Dyma'r dyrfa a ddaeth ynghyd ym Mhorthaethwy ar yr un diwrnod. Roedd nifer o aelodau o'r Lluoedd Arfog yn bresenol.
Yr orymdaith drwy Llanilltud Fawr.
Ac wrth gwrs, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno yn arbennig iawn! Dyma griw o heddweision yn 'Eisteddfod Fuddugoliaeth y Rhyfel Mawr', Corwen, Awst 1919.
Hefyd o ddiddordeb: