Cyfres deledu yn rhoi hwb i Gaernarfon
Mae busnesau Caernarfon wedi bod yn elwa o ychydig bach o hwb yn ddiweddar diolch i'r gyfres deledu boblogaidd The Crown.
Cafodd y dref ei chludo'n ôl i'r 60au wrth i Netflix ffilmio trydedd gyfres y ddrama hanesyddol.
Maen nhw wedi bod yn ail-greu arwisgo'r Tywysog Charles yn 1969, a'r dre yn llawn actorion a chriwiau cynhyrchu, yn ogystal â sawl baner Jac yr Undeb.
Tra bod rhai yn anghyfforddus gyda'r atgofion, mae eraill wedi croesawu'r sylw a'r hwb economaidd i'r dre.