Edrych nôl ar Yr Wyddfa 2018
- Cyhoeddwyd
Mae'r olygfa ar draws Llyn Padarn tuag at Yr Wyddfa yn un o rai mwyaf eiconig Cymru. Yn ystod 2018, fe aeth Cymru Fyw i'r un lleoliad bob mis er mwyn tynnu llun ohoni.
Blwyddyn Newydd Dda gan dîm Cymru Fyw!
![Wyddfa Ionawr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0F9A/production/_104749930_wyddfa_ionawr_resize.jpg)
Yr haul yn codi tu ôl i Grib Goch ar ddechrau blwyddyn newydd ym mis Ionawr 2018
![Wyddfa Chwefror](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/36AA/production/_104749931_wyddfa_chwefror_resize.jpg)
Dyma un ffordd i osgoi'r lonydd rhewllyd wrth i eira trwm ddisgyn ym mis Chwefror
![Mawrth Wyddfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/84CA/production/_104749933_3_mawrth_resize.jpg)
Mis Mawrth, a'r eira'n parhau ar dir uchel
![Wyddfa Ebrill](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/ABDA/production/_104749934_4_ebrill_resize.jpg)
Golau ola'r diwrnod wrth i'r dydd ddechrau ymestyn ym mis Ebrill
![Mai Wyddfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D2EA/production/_104749935_mai_pysgota_resizewe.jpg)
"Gwn ei ddyfod mis y mêl, gyda'i firi, gyda'i flodau" - mis Mai
![Mehefin Wyddfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/102B1/production/_104752266_6_mehefin_resize.jpg)
Yr olygfa yma o bont Pen Llyn wnaeth ysbrydoli R Williams Parry yn ei gerdd Tylluanod - "Pan siglai'r hwyaid gwylltion wrth angor dan y lloer"
![Wyddfa Gorffennaf](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/129C1/production/_104752267_7_gorff_resize.jpg)
Mae'r dŵr yn isel yn Llyn Padarn ar ôl haul a sychder Gorffennaf - ac yn ddigon cynnes i rai nofio ynddo, os edrychwch yn ofalus ar ochr chwith y llun
![Wyddfa Awst](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/150D1/production/_104752268_wyddfa_awst_resize.jpg)
Yr hen draddodiad Cymreig o gael glaw ym mis Awst
![Medi Wyddfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/177E1/production/_104752269_9_medi_resize.jpg)
Mis Medi ac "aros mae'r mynyddau mawr, rhuo drostynt mae y gwynt"
![Hydref Wyddfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1C39/production/_104752270_hydref_resize.jpg)
Y dail wedi troi eu lliw a'r mynyddoedd yn dangos arwydd cyntaf o'r gaeaf
![Wyddfa Tachwedd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4349/production/_104752271_11_tachawedd_resize.jpg)
Tachwedd - y "mis dig du"
![Wyddfa Rhagfyr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6A59/production/_104752272_tachrhag_resize.jpg)
Y wawr yn torri uwchben Eryri wrth i 2018 dynnu at ei therfyn
Lluniau: Bryn Jones
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
Efallai hefyd o ddiddordeb: