Tafarn y Glôb: Lluniau chwarter canrif
- Cyhoeddwyd
Fis Awst 2019, mae Gerallt Williams yn nodi chwarter canrif ers dod yn landlord tafarn eiconig y Glôb ym Mangor a thros y 25 mlynedd hwnnw mae wedi cadw cofnod o gymeriadau a golygfeydd y dafarn gyda'i gamera.
"Dwi eisiau atgoffa pobl o'r hyn sydd i'w gael mewn tafarn fach a dweud 'dan ni'n dal yma' - achos unwaith rydyn ni wedi mynd, yna dyna ni," meddai Gerallt.
Mae ganddo filoedd o luniau wedi eu storio mewn bocsys ac mae nifer yn gweld golau dydd am y tro cyntaf wrth iddo fynd ati i'w cyhoeddi bob yn dipyn ar dudalen Facebook y dafarn, dolen allanol yn ystod 2019.
Mae wedi rhannu rhai ohonyn nhw gyda Cymru Fyw. Ydych chi'n adnabod unrhyw un?
Mae'r newidiadau enfawr ym myd tafarndai bach, gyda llai yn dod drwy'r drws a landlordiaid yn gorfod gweithio'n llawer caletach i ddenu cwsmeriaid, yn un o'r rhesymau pam fod Gerallt eisiau dangos y lluniau.
"Mae pethau wedi newid yn fawr ers imi ddechrau yn 1994," meddai.
"Mae llai yn dod i'r dafarn y dyddiau yma a llai o'r hen gymeriadau rownd y bar - ers talwm mi fyddwn i'n agor y drws am 11am ac mi fydden nhw yno'n disgwyl. Heddiw, does dim pwynt imi agor tan 3pm."
Costau uwch, patrymau cymdeithasu gwahanol a llai o bobl, ar wahân i fyfyrwyr, yn byw ym Mangor Ucha' yw rhai o'r rhesymau, meddai Gerallt.
"Hefyd, mae 'na Weatherspoons yn y dre sy'n cynnig cwrw yn rhad ac mae hynny wedi arwain at gau'r tafarnau bach."
Mae'r ystafell dywyll lle roedd Gerallt yn datblygu ei luniau yn dal yn yr atig a phopeth yn dal ynddi yn union fel wnaeth ei gadael hi 10 mlynedd yn ôl pan ddaeth ffonau symudol i mewn.
"Dwi'n falch mod i wedi cadw cofnod dros y blynyddoedd," meddai Gerallt, sydd yn gweithio fel ffotograffydd priodasau hefyd pan mae galw, ac amser yn caniatáu.
Hefyd o ddiddordeb: