Datganiad Hitachi i atal gwaith yn Wylfa yn 'siomedig'

Mae pwysau o sawl cyfeiriad ar Lywodraeth y DU i barhau â thrafodaethau gyda chwmni o Japan i weld a fydd modd atygyfodi prosiect £12bn i godi atomfa ar Ynys Môn.

Daeth cadarnhad ddydd Iau bod bwrdd rheoli Hitachi wedi penderfynu atal yr holl waith ar gynllun Wylfa Newydd ar ôl methu â dod i gytundeb ariannol.

Mae swyddi cannoedd o weithwyr is-gwmni Hitachi, Pŵer Niwclear Horizon a chontracwyr allanol dan fygythiad, er i benaethiaid ddweud y byddan nhw'n "cadw'r opsiwn i ailgydio yn y datblygiad yn y dyfodol".

Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr adeiladu'r atomfa, ac i gannoedd o swyddi parhaol gael eu creu, pe bai'r safle wedi bod yn weithredol erbyn canol y 2020au.

Richard Foxhall yw rheolwr materion allanol Horizon yng Nghymru.