Heddlu'r De yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 76 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 76 oed yn ardal Castell-nedd.
Cafodd eu galw i eiddo yn Lime Grove, Cimla tua 21:25 dydd Iau, ar ôl adroddiadau o gynnwrf.
Mae dyn 27 oed wedi ei arestio ac yn cael ei holi yn y ddalfa.
Dywedodd llefarydd fod plismyn yn parhau ar y safle, a bod ymholiadau yn parhau.
Dywedodd y ditectif prif arolygydd Darren George: "Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau ac mae ystafell ymchwiliad benodol wedi ei sefydlu.
"Rwy'n apelio am dystion sydd o bosib wedi gweld neu glywed unrhyw beth yn ardal Lime Grove, Cimla, rhwng 19:00 a 21:30 ddydd Iau i gysylltu â ni.
"Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1900056210."