Lluniau: Gwobrau'r Selar 2019
- Cyhoeddwyd
Mae Gwobrau'r Selar yn un o uchafbwyntiau'r sin gerddorol a dyma gyfle i chi fwynhau blas ar y ddwy noson gafodd eu cynnal dros y penwythnos yn Aberystwyth.

Gwilym... yn cael sgwrs ddwys am ble fyddan nhw'n cadw'r pum gwobr wnaethon nhw eu hennill


Paul Jones a Mark Roberts o'r Cyrff a Catatonia'n casglu eu gwobr Cyfraniad Arbennig ar y nos Wener


DJ Elan, un o gyflwynwyr y noson yn breuddwydio am fod yn seren roc a rôl...


Breichiau Hir yn cadw'r gynulleidfa'n hapus rhwng gwobrau




Alffa'n derbyn eu gwobr arbennig am lwyddo i gael dros filiwn o ffrydiadau ar Spotify


Trŵbz enillodd y wobr am y Record Fer Orau, gyda Croesa'r Afon


Wigwam - un arall o'r bandiau oedd yn perfformio ar y noson


Ie... gwobr arall i Gwilym!


Lewys yn amlwg yn eithaf hapus gyda'u gwobr am y Band neu Artist Newydd Gorau


Ac mae'r nos wedi dod i ben... tan y flwyddyn nesa'
Hefyd ar Cymru Fyw: