Fy stafell i: Y darlunydd a chartwnydd Huw Aaron
- Cyhoeddwyd
Mae'r darlunydd a chartwnydd Huw Aaron yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig, yr awdur Luned Aaron a'u dwy ferch.
Yn yr ystafell hon mae Huw wedi creu cartŵns ac arlunwaith ar gyfer nifer o lyfrau Cymraeg i blant. Yma mae'n esbonio arwyddocâd y pethau o'i gwmpas...
Mae'r ystafell yma yn yr atig yn ein tŷ ni, a dyma lle rydw i wedi gwneud y gwaith arlunio ar gyfer llyfrau fel cyfres Trio gan Manon Steffan Ros, Hufen Afiach gan Meilir Sion, Ble mae Boc? a chylchgrawn Mellten.
Mae Luned [Aaron] fy ngwraig, sy'n awdur ac yn ddarlunydd, hefyd yn gweithio yma. Ro'n i'n arfer gweithio lawr grisiau cyn adnewyddu'r atig i'r stafell yma, ond doedd hi ddim yn ymarferol iawn gyda dwy ferch fach yn y tŷ!
Ar y ddesg yma dwi'n paentio a sblasho. Dyma lle dwi'n ychwanegu lliw a bod yn arbrofol. Pan ddechreuais fel cartwnydd, o'n i'n neud y rhan fwyaf o'r gwaith yn ddigidol.
Ond oherwydd bod modd dad-wneud yn hawdd, neu copy and paste, mae'n bosib fynd yn rhy fanwl ac 'exact', a colli rhyddid llinell. Ond roedd magu sgiliau arlunio mewn ffordd 'di-risg' digidol yn sicr wedi helpu i ddatblygu hyder cyn troi 'nôl i'r technegau mwy traddodiadol.
Mae'n angenrheidiol i unrhyw artist gael amser i ddatblygu syniadau. Pan dwi'n gweithio ar rywbeth dwi'n gyffrous amdano, dwi'n teimlo, "dwi eisiau hwn yn y byd... byse fe'n biti bod y syniad yma ddim yn dod i ddim byd". A dyma beth ydy'r pentwr yma - y syniadau hynny dwi'n gobeithio fydd yn gweld golau dydd yn y dyfodol.
Roedd Elwyn Ioan (yr arlunydd a chartwnydd) yn ysbrydoliaeth i fi fel plentyn. Fe ges i'r syniad o wneud comic Cymraeg, a dwi wedi bod yn lwcus iawn i gael gwireddu breuddwyd i wneud Mellten.
Dwi'n cofio bod yn wyth oed, a meddwl, does dim byd yn well na bod yn wyth oed! Ac efallai es i'n styc yn yr oedran yna - arlunio cartŵns ag anghenfilod sili a chreu gemau bach ydw i o hyd!
Dwi di bod yn chwarae top trumps ers pan o'n i'n blentyn, ac o'n i'n gweld bod y Mabinogi a chwedlau Cymreig yn cynnig eu hunain yn berffaith i gardiau brwydro, felly ges i lot o hwyl yn dylunio'r rhain.
Doedd gweithio mas y rhifau ddim yn ormod o drafferth, o'n i'n arfer bod yn gyfrifydd cyn bod yn gartwnydd. Do'n i ddim yn hapus iawn fel cyfrifydd - ond mi oedd fy spreadsheets i yn lliwgar iawn!
Gyda unrhyw gomisiwn newydd, mae'r gwaith yn dechrau pan dwi'n cael y sgript neu pan dwi'n sgrifennu'r sgript. Dwi'n darllen a nodi'r cymeriadau a meddwl am syniadau.
Yna fyddai'n dod i'r gornel yma o'r stafell, ar y lightbox, ac yn dechrau braslunio gyda phensiliau ac un o'r degau o pens gwahanol sydd gen i. Gyda llaw, dydy'r sychwr gwallt ddim yn cael ei ddefnyddio at y pwrpas hwnnw fan hyn! Dwi'n ei ddefnyddio i sychu'r paent...
Yn aml iawn fyddai'n gwrando ar gerddoriaeth Meic Stevens neu Gwyneth Glyn... Neu'n chware blŵs ar yr harmonica!
Dyma rai o'r brasluniau cyntaf i'r llyfr dwi'n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd...
... sef Yr Arhosfan Bws ar Bendraw'r Byd, addasiad Ioan Kidd o The Bus Stop at the End of the World gan Dan Anthony.
Ar ôl braslunio, wedyn byddai'n gwneud ychydig o waith arnyn nhw ar y cyfrifiadur.
A dyma fel maen nhw'n edrych erbyn iddyn nhw fynd at y wasg.
Dros y blynyddoedd, dwi wedi cael fy ysbrydoli gan nifer o ddarlunwyr, ond un o'r prif rai ydy Quentin Blake (arlunydd llyfrau Roald Dahl).
Er bod fy mam wedi dweud wrthai pan o'n i'n blentyn y dylwn i fod yn ddarlunydd, doedd byth gen i'r hyder ei fod yn opsiwn go iawn, felly es i ar drywydd gwahanol iawn. Dim ond wedi i Luned fy annog wnes i ddechrau cymryd camau petrus i faes cartwnio ac arlunio, rhyw ddeg mlynedd yn ôl.
I fi, Jac Jones yw arlunydd mwya' blaenllaw Cymru erioed. Fe wnaeth ddarlunio cymeriad Jac y Jwc am y tro cyntaf, heb sôn am fod yn arlunydd ac awdur cyfoeth o lyfrau eraill i blant.
Mae'n arwr i fi a phan wnes i gysylltu ag e i ofyn iddo gyfrannu i gylchgrawn Mellten, roeddwn i mor hapus iddo gytuno ac mae wedi bod yn fraint i gyd-weithio gyda a dysgu wrtho fe.
Mae'r drôr yma'n llawn o fy ngwaith gorffenedig, dyma lle mae'r lluniau gwreiddiol sydd yn y llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi yn byw.
Y tu allan i'r stafell yn yr atig, fe wnaethon ni adeiladu silffoedd llyfrau a chael cadair esmwyth i ddod i ddarllen a meddwl am syniadau a chael ysbrydoliaeth.
Mae gen i gasgliad o lyfrau Rupert ges i gan hen Anti, ac mae ffoi i'r bydoedd dychmygol a grëwyd gan Alfred Bestall yn fy nghymryd yn syth nôl i fy mhlentyndod.
Hefyd o ddiddordeb: